Wedi’i leoli yng nghanol tref Wrecsam, fel rhan o ddatblygiad newydd cyffrous, mae Bwyty iâl yn cynnig profiad bwyta cyfoes gydag awyrgylch hamddenol a bywiog. Rydym yn angerddol, nid dim ond am ein profiad bwyta gwych, ond hefyd am gynaliadwyedd, iechyd a’r amgylchedd.
Un o’n prif nodau yw cefnogi’r strategaeth o’r Fferm i’r Fforc Cymru ac Ewrop, drwy gynhyrchu ein cig ein hunain, tyfu ein ffrwythau a’n llysiau ein hunain, a chynhyrchu ein cynhyrchion llaethdy ein hunain, gyda chymorth ein cydweithwyr yn Llaneurgain a fferm Llysfasi. Mae Bwyty iâl hefyd yn frand dan faner Coleg Cambria, ac fe’i lgrëwyd i lunio dyfodol sector lletygarwch Cymru. Rydym yn addysgu ac yn hyfforddi darpar gogyddion a myfyrwyr lletygarwch, gan feithrin eu sgiliau ac ysbrydoli eu brwdfrydedd am gynnyrch safon uchel a gwasanaeth gwych i gwsmeriaid.
Pa bynnag brofiad bwyta rydych chi’n chwilio amdano, gallwn ei ddarparu i chi – o ginio sydyn i ychydig o oriau hamddenol gyda’ch ffrindiau. O de prynhawn i ddathlu, i bryd moethus gyda’r nos, neu efallai y byddech yn hoffi cael rhywbeth ysgafnach wrth brofi’r awyrgylch, mwynhau ein byrbrydau bar gwych, ein dewis helaeth o win, cwrw lleol a’r coctels diweddaraf.
Os mai’ch syniad chi o’r profiad perffaith ydi rhoi cynnig ar seigiau cyfoes, lleol mewn amgylchedd chwaethus, modern, fydd Bwyty iâl ddim yn eich siomi. Ond peidiwch â chymryd ein gair ni; archebwch fwrdd heddiw. Allwn ni ddim aros i gael eich croesawu.
P’un a ydych chi’n dathlu, yn coffáu, yn tretio’ch hun neu’n anfon dymuniadau arbennig, rydym yn gwybod bod arnoch chi eisiau’r gwasanaeth gorau, y blodau mwyaf ffres a phrofiad rhagorol; dyna yw addewid iâl Flowers.
Mae’r tîm creadigol yn angerddol am bopeth sy’n ymwneud â blodau ac wrth law i wireddu’ch syniadau neu helpu i’ch rhoi chi ar ben ffordd.
Yn iâl Salon, mae’r tîm o steilyddion a therapyddion talentog yma i chi. P’un a ydych chi’n bwriadu cael steil newydd sbon, yn chwilio am gyngor ar y ffasiynau neu’r triniaethau diweddaraf, eisiau ychwanegu sblash o liw neu angen ymlacio a dadflino yn nwylo medrus y therapyddion harddwch, mae Salon iâl yn ymroi i helpu pawb i gyflawni’r profiad a’r ddelwedd sy’n wastad wedi mynd â’u bryd .
Gwasanaeth gwych, prisiau fforddiadwy, blas sydd ar lefel goreuon y byd. Y bwyty gorau yn Wrecsam, cymeradwy iawn.
Es i i’r bwyty ar nos Iau. Roedd y staff yn wasanaethgar iawn. Gwnaeth y bachgen ifanc gyda gwallt du a sbectol wneud i ni deimlo’n gartrefol iawn. Roedd y bwyd yn hyfryd, cafodd y ddau ohonom 3 chwrs a photel o win. Dyma un o’r lleoedd gorau i fwyta yn Wrecsam
Bwyd hyfryd, safon arbennig, wedi’i weini mewn amgylchedd neis iawn, gan staff sy’n wirioneddol eisiau gweithio. Mae’n le hyfryd i fwyta. Mae’n gymeradwy dros ben.
Es i a fy nheulu i’r bwyty hyfryd hwn. Cawsom ni groeso cynnes a chyfeillgar wrth i ni gerdded drwy’r drws. Cafodd bawb 3 chwrs, roedd cymaint o ddewis ar y fwydlen, roedd pob cwrs wedi’i goginio’n berffaith. Mae fy merch ieuengaf yn gallu bod yn ffyslyd mewn bwytai, ond gwnaeth hi fwyta pob tamed. Does dim dwywaith y byddwn ni’n mynd yn ôl am Ginio Rhost. Mae’r staff yn gyfeillgar iawn ac roedden ni’n gallu mwynhau pob cwrs heb bwysau i frysio. Mae’r chefs yn haeddu canmoliaeth fawr oherwydd mae’n amlwg eu bod yn coginio pob cwrs yn ffres ac yn berffaith.
Rydyn ni wedi bwyta yma sawl gwaith ac mae’r bwyd a’r gwasanaeth wedi bod heb eu hail bob tro. Mae’n fwyty hyfryd ac ymlaciol sy’n cynnig ciniawa crand. Cafodd y 4 ohonom ni ginio Nadolig a doedd dim byd o’i le gydag unrhyw agwedd. Dros y blynyddoedd rydw i wedi cael dwsinau o brydau cinio Nadolig o safon tafarndai i westai crand a’r cinio yma oedd y gorau. Mae’r bwyd yn lleol, wedi’i goginio’n berffaith ac yn bris rhesymol o £20 am ddau gwrs. Mae’n drist mai dyma yw cyfrinach gorau Wrecsam gan ei fod yn cynnig rhywbeth at ddant pawb.