Lle i Bawb
Yma ym mwyty Iâl, mae gennym ni ddau le mawr ar gyfer digwyddiadau amlbwrpas sy’n gallu cynnal llu o achlysuron gwahanol. Ar gyfer digwyddiadau llai gallwn drawsffurfio ein bwyty i greu lle hyfryd yng nghanol Wrecsam i hyd at 70 o westai ei fwynhau. Byddwn yn argymell archebu taith o amgylch y lle er mwyn i ni egluro’r holl ddewisiadau sydd ar gael i chi.
Byddwn yn gweithio gyda chi i ddod â’ch syniadau’n fyw a gwneud eich digwyddiad yn un arbennig, gan adael i chi fwynhau’r foment. Bydd ein lleoedd yng nghanol Wrecsam, ynghyd â’n gwasanaeth a’n bwydlen o ganmoliaeth uchel, yn sicrhau bod pob gwestai’n cael eu croesawu ym mhob achlysur, boed yn ddigwyddiad rhwydweithio neu ddathlu gyda theulu a ffrindiau.