Nadolig

Bwyta Bwyd Nadoligaidd ym Mwyty Iâl

Dewch i ddathlu’r Nadolig gyda ni ym Mwyty Iâl! P’un a ydych chi’n cynllunio i ddal i fyny gyda ffrindiau, dod â’r teulu at ei gilydd, neu gael pryd Nadoligaidd efo cydweithwyr, mae gennym ni rywbeth at ddant pawb.

Bydd ein bwydlenni Nadolig ar gael o 16 Tachwedd ymlaen, a fydd yn cynnwys dewis blasus o brydau tymhorol wedi’u gwneud â chynhwysion ffres lleol.

 

O 30 Tachwedd tan 19 Rhagfyr, rydyn ni’n ymestyn ein horiau agor i saith diwrnod yr wythnos! Byddwn ni ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener o 12pm tan 4pm, ar ddydd Sadwrn o 12pm tan 4:30pm am ginio a 6pm tan 11pm am swper, ac yna ar ddydd Sul o 12pm tan 6pm.

Ewch i gael cip isod ar ein bwydlenni cinio Nadolig, bwydlen gyda’r nos a bwydlen i blant a chadwch eich bwrdd er mwyn gwneud y Nadolig hwn yn un i’w gofio!

Allwn ni ateb unrhyw gwestiynau?

white divider

Dyma sut allwch chi gysylltu â ni

Ffoniwch

01978 548 818

Dod o hyd i ni ar y cyfryngau cymdeithasol