Rhwydweithio i Fusnesau
Creu digwyddiad rhwydweithio sy’n sicr o ddod â phobl ynghyd, eu cael i siarad a rhannu syniadau ym Mwyty iâl. P’un a yw’n grŵp bach neu’n dyrfa fawr, mae gennym ddau le amlbwrpas mawr sy’n gallu darparu ar gyfer nifer o osodiadau gwahanol, neu gallwn drawsnewid ein bwyty i greu cefndir unigryw ar gyfer eich digwyddiad.
Siaradwch ag un o’n tîm, a fydd yn falch o gael trefnu taith o amgylch popeth sydd gan iâl i’w gynnig i chi, a thrafod holl ofynion eich digwyddiad, fel y gallwn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth eithriadol i chi, yn ogystal â’r lle perffaith a lluniaeth sy’n tynnu dŵr o’ch dannedd.